Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (14) v4 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) |
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adroddiad ESTYN (30 munud) |
4. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)
NDM4792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i fod yn weithredol o 19 Medi 2011.
NDM4793 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i fod yn weithredol o 19 Medi 2011.
NDM4794 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i fod yn weithredol o 19 Medi 2011.
NDM4795 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i fod yn weithredol o 19 Medi 2011.
|
5. Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad (15 munud)
NDM4787 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2011;
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4786 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Cydnabod rôl allweddol twristiaeth yn economi Cymru;
b) Hyrwyddo Cymru dramor yn gyfan gwbl;
c) Cynyddu nifer y cwmnïau sy’n allforio o Gymru a gwerth allforion o Gymru;
d) Sicrhau bod rhagor o fewnfuddsoddi i Gymru yn cael ei annog.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
Buddsoddi mewn sgiliau fel y bydd gan fusnesau yng Nghymru fwy o botensial i allforio a denu rhagor o fewnfuddsoddi.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
e) Edrych ar bob llwybr posibl er mwyn cynnal gwariant cyfalaf ar brosiectau seilwaith fel ffordd o roi hwb i gwmnïau Cymru a’u gallu i gystadlu mewn marchnad fyd-eang.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai Cyfnewidfa Stoc Cymru yn helpu i hyrwyddo Cymru fel economi fodern.
|
7. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4789 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Cyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol;
b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru;
c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a hygyrch ar draws Cymru.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
Gwelliant 4 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 5 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
|
8. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes er mwyn:
a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch;
b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol;
c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar;
d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol;
e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) Rhewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi ar waith;
b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2,3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod.
2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.
[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le:
Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12000 a £15000.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.
|
Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 20 Medi 2011